CAW202 Robert Jenkins,  

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Robert Jenkins

Pennaeth,

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Mae yna groeso i’r cwricwlwm newydd ynghyd â’r amserlen ar gyfer ei gyflwyno.

Mae’r rhesymeg tu ôl i’r pedwar diben yn gadarn gan hyrwyddo lles personol yr unigolyn ynghyd â’r gymdeithas yn fwy eang. Mae’r chwe maes yn fodd hylaw i hyrwyddo’r cysylltiadau rhwng y gwahanol elfennau o’r cwricwlwm. Yn ogystal, croesawir y modd y mae’r fframweithiau presennol yn cydblethu o fewn y cyfanwaith.

 

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae yna beryg fod yr opsiynau a gyflwynir o ran y Gymraeg yn medru cael effaith negyddol ar y ddarpariaeth gyfredol a hynny’n gwbl ddiangen.

Mae’r sefyllfa bresennol, lle bo disgyblion yn cael eu ‘trochi’ yn y Gymraeg hyd ddiwedd y cyfnod sylfaen, yn ddull effeithiol iawn o weithredu. Ar draws Cymru, mae’n sicrhau fod bron pob disgybl sy’n derbyn y ddarpariaeth hwn yn hyderus yn yr iaith cyn bod y Saesneg yn cael ei chyflwyno ym mlwyddyn 3.  Byddai gwanhau hyn mewn unrhyw ffordd yn gam yn ôl. Yn ogystal, mae’n bosib y byddai gorfodi Cyrff Llywodraethol i ‘optio allan’ o ddarpariaeth Saesneg yn creu tensiwn yn lleol gan roddi pwysau diangen ar Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr.

Credaf y dylid ail-ystyried yr elfen hon.

 

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

-

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

-